Monday 30 November 2015

30.11.2015

Rhwng 24 a 25 Tachwedd bu gwrandawiad cais y gymdeithas am Adolygiad Barnwrol ar benderfyniad ymchwyliad Cyfoeth Naturiol Cymru i lygredd Llyn Padarn ar effaith ar y torgoch. 'Roedd barn CNC yn ei ymchwilaid yn dweud fod yr holl lygredd heb gael dim effaith ar gynefin na iechyd poblogaeth y pysgodyn prin yma.

'Does dim achos fel hyn wedi bod o fewn y llysoedd newydd yng Nghaernarfon, ond 'roedd yn amlwg pwy sy'n gyrru'r gwrthwynebiad i'r cais - sef Llywodreath Cymru. Nid yw'n deg imi fynd ymhellach ar hyn oherwydd fod y barnwer Mr. Ustus Hickinbottom heb ryddhau ei ddyfarniad. Gobeithio bydd hyn i law cyn y nadolig.

                                                    ----------------------------------------------

Between 24 and 25th. November the societies Judicial Review application at Caernarfon Justice Centre before Mr Justice Hickenbottom took place.  The thrust of this application was to challenge National Resources Wales's decision that Padarn Lake's pollution had no detrimental effect on the charr population.

 Being present at the hearing it was obvious that the Welsh Government was the body driving the opposition to our application. However as a decision is awaited - hopefully before christmas I'll refrain from further comment.

Huw P. Hughes

Friday 6 November 2015

6.11.2015

Mae'r gymdeithas wedi derbyn rhodd o gerflyn gan deulu y diweddar Maurice Jones, Penllyn (ein cyn gadeirydd) Penderfyniad yr aelodau yw fod y rhodd iw gyflwyno yn flynyddol i'r aelod sy'n cyflwyno llun goreu o unrhyw weithgaredd neu leoliad sy'n berthnasol a physgota neu eiddo'r clwb.
Bydd y buddugol yn derbyn gwobr o £20 iw dynnu o dal aelodaeth y flwyddyn ganlynol

Os diddordeb rhaid i'r lluniau fod i law yr ysgrifennydd erbyn 20/11 eleni

                                                       -------------------------------------

The society has been presented with a trophy by the family of the late Mr. Maurice Jones, Penllyn
 ( our previous chairman) The members decision is that the trophy be presented annually to the member who submits the best photo of anything related to fishing or of  the societies holdings. The winner will also receive £20 discount on the following years subs.

Entries this year by e-mail please to the secretary by 20/11




                                                       Tlws Maurice Jones Trophy
                                                   Am y llun goreu - for best photo

Monday 2 November 2015

2.11.2015

Gyda problemau Llyn Padarn yn cael effaith ar y torgoch, a stocio yn gorfod cyfmryd lle i geisio achub y boblogaeth( stocio heddiw lluniau eto ar y galeri prynhawn 'ma). Mae'n aelodau wedi symud i bysgota Llyn Cwellyn ble mae'r pysgodyn hardd yma ddim yn cael ei effeithio gan lygredd .

Yma mae'r pysgota yn ardderchog gyda'r torgoch yn ei maint naturiol - sef rhyw dri meu bedwar i'r pwys. Hen ddywediad yn Llanbris cyn y problemau medda Closs - ia dwi'n mynd yn ol i'r 1960's oedd - i wneud pwys mi oedd eisiau tri torgoch a ceiniog, ia cofiwch hen geiniog i'r rhai sy'n cofio.

Cawn weld be fydd dyfodol pysgotfa Padarn a'r Seiont gan fod ein achos drwy Fish Legal  yn yr Uchel Lys at ddiwedd Tachwedd eleni - yng Nghaerdydd dwi'n credu fydd y gwrandawiad.

Diolch i Matt Perring am anfon llun torgoch o'r Cwellyn  -gweler yn y galeri.

                                                      ------------------------------

With Padarn's problems taking it's toll on the charr and artificial stocking taking place (this afternoon - photos on the Galery later on today) to try and revive the population. Members have turned to Cwellyn wich is unaffected  by problems and the charr are in their natural size. The old saying, so say's Closs, that during 1960's in Llanberis was that to make a pound weight it takes three charr and a penny, an old penny to those who remember.

The fishing is good on Cwellyn and thanks to Matt Perring for a shot of a Cwellyn Charr - that's how they should be. (Photo on Galery)

We'll soon see how things are to develop on Padarn as the High Court hearing  taken by Fish Legal against natural resources wales and Welsh Gov. Ministers is scheduled for the end of this month - at Cardiff I believe.


Huw P. Hughes